
Beth am fod yn Llywodraethwr Ysgol?
Hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o gefnogi addysg yn ysgolion Caerdydd? Hoffech chi hefyd ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a phersonol eich hun? Gallwch wneud y ddau drwy wirfoddoli fel llywodraethwr ysgol.
Ymunwch â’r 22,000 o lywodraethwyr yng Nghymru i wneud gwahaniaeth.
Mae gan Gaerdydd 127 o ysgolion sy’n cwmpasu gwahanol gategorïau gan gynnwys Meithrin, Cynradd, Uwchradd, Arbennig, Ffydd a Chyfrwng Cymraeg. Mae ein hysgolion yn darparu addysg i dros 54,000 o blant ac mae gan bob ysgol gorff llywodraethu.
Beth mae llywodraethwyr ysgol yn ei wneud?
Llywodraethwyr ysgol yw’r gweithlu gwirfoddol pwysicaf ym maes addysg, ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc. Mae llywodraethwyr ysgol yn helpu i osod gweledigaeth strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosibl. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol gan roi cymorth a her i uwch dîm arwain yr ysgol.
Mae eu gwaith allweddol yn cynnwys:
- Pennu cyfeiriad, nodau, polisïau a blaenoriaethau cyffredinol yr ysgol
- Sicrhau lles dysgwyr, eu diogelu a’u hamddiffyn
- Monitro perfformiad a hyrwyddo safonau cyflawniad addysgol, presenoldeb ac ymddygiad uchel
- Bod yn “gyfaill beirniadol”, gan roi cymorth a her i’r uwch dîm arwain a gosod targedau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn
- Cytuno ar gyllideb flynyddol yr ysgol a monitro hyn drwy gydol y flwyddyn
- Sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad i gwricwlwm eang a chytbwys a bod pob gofyniad statudol yn cael eu cyflawni
- Bod ynghlwm wrth bob proses staffio gan gynnwys tâl, penodi staff, rheoli perfformiad, atal dros dro, materion disgyblu a diswyddo
Gall unrhyw un dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol. Mae llywodraethwyr yn wirfoddolwyr o gefndiroedd amrywiol ac mae ysgolion yn elwa ar eu gwahanol sgiliau a phrofiad.


Pam bod yn llywodraethwr ysgol?
Mae bod yn llywodraethwr ysgol o fudd mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys y canlynol:
- Cyfle i ymwneud ag ysgol leol a gwneud gwahaniaeth i ddyfodol plant a phobl ifanc a’ch cymuned
- Datblygu eich sgiliau a’ch profiad proffesiynol mewn meysydd fel cynllunio strategol, cadeirio, pennu cyllidebau a rheoli arian, recriwtio staff a gweithio mewn tîm. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau y gellir eu trosglwyddo ac yn rhai a all roi hwb i’ch gyrfa a’ch datblygiad personol eich hun
- Datblygu eich gwybodaeth am y system addysg
- Datblygiad proffesiynol parhaus drwy fynychu hyfforddiant a digwyddiadau am ddim i’ch cefnogi yn eich rôl.
Edrychwch beth sydd gan Shikala i’w ddweud am fod yn llywodraethwr ysgol.

Pa ymrwymiad sydd ei angen?
Fel llywodraethwr byddwch yn:
- Mynychu cyfarfodydd cyrff llywodraethu a chyfarfodydd pwyllgor a chymryd rhan ynddynt yn rheolaidd. Bydd yr ymrwymiad amser cyfartalog yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion yr ysgol a’r rôl y byddwch yn ei chyflawni ond mae’r rhan fwyaf o lywodraethwyr yn neilltuo o leiaf bum awr y mis i faterion llywodraethu ysgolion.
- Mynd i hyfforddiant wedi’i ddarparu gan yr Awdurdod Lleol – mae’n ofynnol i lywodraethwyr newydd gwblhau dwy sesiwn hyfforddi orfodol o fewn blwyddyn gyntaf y penodiad.
- Cwblhau sesiynau hyfforddi eraill i wella eich gwybodaeth a’ch arbenigedd.
- Treulio amser yn dod i adnabod yr ysgol drwy ymweliadau cyswllt rhwng llywodraethwyr/teithiau cerdded dysgu.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd panel sy’n ymdrin ag apwyntiadau, materion staffio, materion disgyblion a chwynion.
- Parchu cyfrinachedd ar bob adeg.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant am ddim, sgiliau trosglwyddadwy a llawer mwy!

Cwrdd â chadeirydd y llywodraethwyr


Rwyf wedi elwa cymaint o fy mhrofiad yn llywodraethwr ysgol, yn enwedig y blynyddoedd diwethaf pan oeddwn yn Gadeirydd y Llywodraethwyr. Rwyf wedi defnyddio’r sgiliau a ddatblygais yn fy rôl lywodraethu i arallgyfeirio fy ngyrfa ac wedi datblygu rhwydwaith da o bobl o’r un anian, sy’n awyddus iawn i blant ac oedolion ifanc gyflawni eu gwir botensial, a theimlo’n barod ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a fydd yn siŵr o ddod i’w rhan yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Rwy’n edrych ar bethau mewn ffordd gyfannol – rwy’n credu bod angen sicrhau lles unigolyn cyn disgwyl iddo neu iddi ddysgu a datblygu’n effeithiol. Rwyf wir wedi mwynhau gweithio ar ddatblygu doniau a chynllunio olyniaeth wrth gadeirio nifer o gyrff llywodraethu a gallaf eich sicrhau bod rhoi o’ch amser i wirfoddoli fel hyn yn talu ar ei ganfed. Nid oes meini prawf penodol o ran sgiliau gofynnol – mae gan bob un ohonon ni sgiliau, agweddau a galluoedd unigryw – a chredwch chi fi, fe fydd rôl o fewn corff llywodraethu lle gallwch chi fod yn werthfawr iawn a lle bydd eich sgiliau’n ategu rhai eich cydweithwyr. Does dim i’w golli o wneud ymholiad, felly byddwn yn eich annog i wneud hynny.
Fel llywodraethwr byddwch hefyd yn elwa o Gymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd sy’n llais ar y cyd i lywodraethwyr ledled Caerdydd, ac sy’n cynnig hyfforddiant a datblygiad ychwanegol, a chyfleoedd rhwydweithio a lobïo ar ran llywodraethwyr ledled y ddinas. Rydym yn ffodus bod gennym berthynas waith gadarnhaol, gydweithredol yma yng Nghaerdydd. Yn sicr, fe gewch groeso mawr a chyfleoedd mentora.
Karen Dell’Armi
Cadeirydd, Cymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd
Beth sydd angen i fi ei wneud nesaf?
Oes diddordeb gennych?
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a’r broses ymgeisio.
Mae gennym hefyd nifer o lywodraethwyr profiadol a fydd yn falch iawn o rannu eu profiadau â chi a rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol i chi.
Mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio ar gyfer penodi llywodraethwyr ALl.
Dyma’r meini prawf hynny:
- Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth o bwysigrwydd addysg ym mywydau plant a phobl ifanc;
- Yn gallu cynnig a rhannu sgiliau ac arbenigedd sy’n ateb gofynion yr ysgol dan sylw;
- Tystiolaeth o allu gweithredu fel cyfaill beirniadol, gan roi cymorth a hefyd herio;
- Diddordeb yn y gymuned leol y mae’r ysgol yn rhan ohoni;
- Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau’r corff llywodraethu yn rheolaidd;
- Yn ymrwymedig at ymgymryd â hyfforddiant gorfodol a dulliau hyfforddi eraill er mwyn diweddaru gwybodaeth a sgiliau a gwella effeithiolrwydd fel llywodraethwr.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu o’r ffurflen gais y bydd ymgeiswyr yn ei llanw er mwyn bod yn llywodraethwr ysgol.
Lleoedd Gwag ar hyn o bryd – 11 Ionawr 2021
Enw’r Ysgol | Ardal | Nifer y Lleoedd Gwag |
Ysgol Uwchradd Cantonian | Y Tyllgoed | 2 |
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd | Caerau | 1 |
Ysgol Gynradd Creigiau | Creigiau a Sant Ffagan | 1 |
Ysgol Uwchradd y Dwyrain | Trowbridge | 1 |
Ysgol Gynradd Hawthorn | Ystum Taf | 1 |
Hywel Dda Primary School | Trelai | 1 |
Ysgol Gynradd Pontprennau | Pontprennau a Phentref Llaneirwg | 1 |
Ysgol The Hollies | Pentwyn | 1 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd | Yr Eglwydd Newydd a Thongwynlais | 2 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr | Y Tyllgoed | 1 |
Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof | Y Tyllgoed | 1 |
Ysgol Gymraeg Nant Caerau | Caerau | 1 |
Ysgol Gymraeg Pwll Coch | Treganna | 1 |
Ysgol Y Wern | Llanisien | 1 |
Lleoedd Gwag yn y Dyfodol
Mae nifer o swyddi fydd ar gael yn y dyfodol wedi’u rhestru isod gan fod cylch penodi pedair blynedd presennol y Cyngor yn dod i ben. Bydd llywodraethwyr presennol sy’n dymuno parhau yn eu swyddi hefyd yn cael cyfle i ailymgeisio am y swyddi hyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr drwy gwasanaethau.llywodraethwyr@caerdydd.gov.uk.
Enw’r Ysgol | Ardal | Nifer y Lleoedd Gwag |
Ysgol Gynradd Albany | Plasnewydd | 1 |
Ysgol Gynradd Baden Powell | Sblot | 1 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Esgob Childs | Trowbridge | 1 |
Ysgol Gynradd Bryn Celyn | Pentwyn | 1 |
Ysgol Uwchradd Caerdydd | Cyncoed | 3 |
Ysgol Uwchradd Cathays | Gabalfa | 1 |
Ysgol Gynradd Coed Glas | Llanisien | 3 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi | Llys-faen | 1 |
Canolfan Blant Trelái a Chaerau | Trelai | 1 |
Ysgol Gynradd y Tyllgoed | Y Tyllgoed | 2 |
Ysgol Uwchradd Fitzalan | Treganna | 3 |
Ysgol Gynradd Gabalfa | Ystum Taf | 1 |
Ysgol Gynradd Glyncoed | Pentwyn | 1 |
Ysgol Gynradd Grangetown | Grangetown | 1 |
Ysgol Greenhill | Rhiwbeina | 1 |
Ysgol Gynradd Hawthorn | Ystum Taf | 3 |
Ysgol Gynradd Hywel Dda | Trelai | 1 |
Ysgol Gynradd Llanedern | Pentwyn | 1 |
Ysgol Gyrnadd Llanisien Fach | Rhiwbeina | 1 |
Ysgol Gynradd Llys-faen | Llys-faen | 2 |
Ysgol Gynradd Marlborough | Pen-y-lan | 1 |
Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog | Caerau | 2 |
Ysgol Meadowbank | Ystum Taf | 2 |
Ysgol Gynradd Millbank | Caerau | 2 |
Ysgol Gynradd Mount Stuart | Butetown | 1 |
Ysgol Gyrnadd Parc Ninian | Grangetown | 1 |
Ysgol Gynradd Oakfield | Trowbridge | 1 |
Ysgol Gynradd Pentre-baen | Y Tyllgoed | 1 |
Ysgol Gyfun Radur | Radur a Phentre-poeth | 1 |
Ysgol Gynradd Rhiwbeina | Rhiwbeina | 1 |
Ysgol Gynradd Rhyd-y-penau | Cyncoed | 1 |
Ysgol Gynradd Parc y Rhath | Plasnewydd | 1 |
Ysgol Gynradd Tredelerch | Tredelerch | 2 |
Ysgol Gynradd Springwood | Pentwyn | 1 |
Ysgol Gynradd Gatholig Cadoc Sant | Llanrhymni | 1 |
Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph | Gabalfa | 1 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg | Llanrhymni | 1 |
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru St Teilo1 | Pentwyn | 1 |
Ysgol Gynradd Ton-Yr-Ywen | Y Mynydd Bychan | 1 |
Ysgol Gyrnadd Trelai | Caerau | 1 |
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd | Yr Eglwydd Newydd a Thongwynlais | 1 |
Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd | Yr Eglwydd Newydd a Thongwynlais | 1 |
Ysgol Glan Morfa | Sblot | 2 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern | Pen-y-lan | 3 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf | Ystum Taf | 1 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr | Y Tyllgoed | 1 |
Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad | Butetown | 2 |
Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes | Pentwyn | 3 |
Ysgol Mynydd Bychan | Gabalfa | 1 |
Ysgol Pencae | Llandaf | 1 |
Ysgol Y Berllan Deg | Pentwyn | 2 |
Ysgol Y Wern | Llanisien | 1 |